Feedback

Cerddoriaeth yn y gwaith

Prynwch drwydded i chwarae cerddoriaeth yn y gwaith

Mae chwarae cerddoriaeth mewn modd clywadwy i staff a chwsmeriaid mewn amgylchedd busnes yn cael ei ystyried yn berfformiad cyhoeddus. Mae Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 yn dweud bod angen i chi gael caniatâd daliwr yr hawlfraint i chwarae cerddoriaeth yn gyhoeddus.

Os ydych wedi derbyn ein llythyr o gyflwyniad, ac os hoffech ei weld yn Saesneg, cliciwch yma. Mae fersiwn Saesneg ar gael hefyd o'n dogfen Cwestiynau Cyffredin, ‘Prynwch drwydded i wrando’, i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych.  Rydym yma i ateb cwestiynau ac i'ch helpu i sicrhau'r caniatâd cyfreithiol y mae arnoch ei angen i chwarae, yn y gwaith, gerddoriaeth sydd wedi ei diogelu gan hawlfraint.  

I sefydlu'ch cyfrif yn awr, ffoniwch ein Tîm Trwyddedu Cerddoriaeth ar 0800 694 7322

Mae'r llinellau ar agor rhwng 9yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Trwyddedig i Chwarae

Mae trwyddedau cerddoriaeth yn eich caniatáu i chwarae cerddoriaeth sydd wedi ei diogelu gan hawlfraint, gan gynnwys:

  • Cerddoriaeth wedi'i recordio a cherddoriaeth fyw
  • Cerddoriaeth sy'n cael ei chwarae ar gryno ddisgiau a chwaraewyr MP3, ar setiau radio a theledu, a thrwy seinyddion cyfrifiadur
  • Cerddoriaeth sy'n cael ei chwarae i bobl sy’n gwneud galwad ffôn, tra byddant yn aros i gael eu cysylltu â'r sawl y maent yn dymuno siarad â hwy

Mae'n bosibl y bydd arnoch angen trwydded gan PPL hefyd. Talwch ymweliad â ppluk.com. Nid oes angen i chi fod yn drwyddedig os yw'r holl gerddoriaeth yr ydych yn ei chwarae y tu allan i hawlfraint.

Chwarae teg

Mae PRS for Music yn dosbarthu bron i 90% o'r ffioedd a dderbynnir o drwyddedau yn ôl i awduron caneuon, cyfansoddwyr, a chyhoeddwyr, ar ffurf breindaliadau.  Dim ond ein costau gweinyddu y byddwn yn eu didynnu.  

Peidio â thalu am chwarae

Os bydd rhywun sy'n defnyddio cerddoriaeth ddim yn sicrhau trwydded, gallwn gymryd camau cyfreithiol am dor-hawlfraint, a gallai'r defnyddiwr wedyn fod yn atebol am gostau ac iawndal. Cyn hynny, wrth gwrs, byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i gyfleu'r angen am drwydded cerddoriaeth. I brynu trwydded, ffoniwch 0800 694 7322.   

switching account

Switching your account...